SL(5)356 – Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wall drafftio yn Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018 ("Rheoliadau 2018"). Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn darparu bod paragraff 9(3)(a) o Atodlen 7 i Reoliadau 2018 (sy'n ymwneud â defaid a geifr mewn lladd-dy) yn darllen ar hyn o bryd:

    'dynnu ymaith fadruddyn y cefn yn y lladd-dy yn dilyn yr archwiliad post-mortem'

Yn y Rheoliadau hyn, yn lle “yn dilyn” rhodder “cyn”.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cadarnhau nad yw'r diwygiad yn effeithio ar y rheolaethau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy sy'n cael eu harfer na'r modd y'u cyflawnir.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae Rheoliadau 2018, a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau'r UE mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid. Felly, byddant yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

27 Chwefror 2019